Dau gorff ar waelod clogwyn
- Cyhoeddwyd

Am 11.15am daethpwyd o hyd i gorff dyn 58 oed
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i gorff dyn a menyw o Gymru gael eu darganfod ar waelod clogwyn.
Am 11.15 fore Iau daeth Gwylwyr y Glannau o hyd i gorff dyn 58 oed ar waelod clogwyn yn Beachy Head yn Sussex.
Wedyn daethpwyd o hyd i gorff menyw 81 oed yn y cyffiniau.
Y gred yw bod y ddau o Gaerdydd.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.