Wood: "Tlodi ddim yn anochel"

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Leanne Wood: "Gormod o arian yn gadael ein heconomïau lleol"

Yn ei haraith gyntaf fel arweinydd yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru ddydd Gwener mae Leanne Wood wedi dweud "na ddylai Cymru derbyn bod tlodi'n anochel".

Wrth gyfarch y gynhadledd sy'n cael ei chynnal ar safle cae rasio Ffoslas, fe wnaeth Leanne Wood ymhelaethu ar ei neges o "annibyniaeth real" i Gymru.

Enillodd hi'r ras i fod yn arweinydd yr wythnos diwethaf, gan guro Elin Jones ac Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, er mwyn olynu Ieuan Wyn Jones.

Fe wnaeth Ms Wood ddefnyddio'i haraith fawr gyntaf fel cyfle i gyflwyno'i hunan i'r rheiny tu allan i'r blaid gyda'r cynnig o "wleidyddiaeth a Chymru well".

'Amddiffyn ein cymunedau'

Dywedodd Ms Wood fod "gormod o arian yn gadael ein heconomïau lleol, ac yn gadael Cymru.

"Rhaid i ni ddatblygu cynllun i atal hyn. Mae'n rhaid i ni ddatblygu cynllun i amddiffyn ein cymunedau."

Roedd cynigion polisi ar gyngor ymchwil newydd fel y gall prifysgolion Cymru torri "cartél coleg Rhydychen/Caergrawnt" ac ar gyfer datganoli pwerau treth i "wobrwyo" cwmnïau sy'n buddsoddi.

A chyhoeddodd dri "nod mawr": economi gwyrdd, buddsoddu yn sylfaen wybodaeth Cymru a chreu isadeiledd modern.

Bu hefyd yn ymosod ar Gyllideb y Canghellor George Osborne yr wythnos hon, gan gynnwys cynigion gan y Trysorlys i gyflwyno tâl rhanbarthol yn y sector cyhoeddus - mesur mae Plaid Cymru a llywodraeth Lafur Cymru'n gwrthwynebu'n gryf.

Dywedodd Ms Wood: "Treth y pen ar dlodi yw talu llai i bobl achos eu bod nhw'n dlotach. Nid yw'n rhywbeth bydd Plaid Cymru yn ei dderbyn.".

Anogodd ei phlaid i ymdrechu am "wleidyddiaeth well" a "Chymru well".

Gweledigaeth

Y llynedd fe roddodd Leanne Wood awgrym am ddyfodol y blaid ar ôl cyhoeddi cynigion i adfywio'r hen feysydd glo.

Fe wnaeth yr aelod cynulliad dros Ganol De Cymru barhau gyda llawer o syniadau'r 'Cynllun Gwyrdd i'r Cymoedd' sy'n rhan o'i gweledigaeth hi i adnewyddu'r economi Cymreig fel sail ar gyfer Cymru annibynnol.

Fe wnaeth hi hefyd ddweud na ddylai'r bwlch cyfoeth rhwng Cymru a gweddill y DU fod yn rheswm i Gymru feddwl bod tlodi'n anochel.

Dangosodd ffigyrau swyddogol mwyaf diweddar yr Undeb Ewropeaidd fod y bwlch hynny'n cynyddu - patrwm sydd angen gwrthdroi yn ôl Ms Wood.

Comisiwn

Cyhoeddodd Ms Wood yn gynharach yn yr wythnos ei bod hi'n ffurfio comisiwn newydd i ddatblygu gweledigaeth y blaid am economi Cymru.

Bydd y comisiwn yn cael ei arwain gan Adam Price - cyn-aelod Seneddol Plaid Cymru ac un o gefnogwyr mwyaf amlwg Leanne Wood yn ystod ymgyrch yr arweinyddiaeth.

Y gynhadledd yw cyfle olaf y blaid i ymgynnull cyn yr etholiadau lleol ymhen deufis.

Yn etholiadau lleol 2008, er gwaetha i Blaid Cymru golli rheolaeth ar gyngor Gwynedd - yr unig gyngor yr oedden nhw'n ei reoli ar y pryd - enillodd y blaid y nifer uchaf o gynghorwyr drwy Gymru yn ei hanes.

Mae Ms Wood am weld gwelliant yn y perfformiad hynny, ond ei huchelgais yw gweld y blaid yn cystadlu ym mhob rhan o Gymru yn yr hir dymor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol