Damwain farwol: Cyhuddo dyn
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 27 oed o Lannau Dyfrdwy wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ar ôl damwain farwol ar yr A55 ddydd Sul.
Bydd David Michael Doherty o Queensferry yn ymddangos ger bron llys ynadon ddydd Gwener.
Bu farw James Loveridge, 38 oed o Elton, Swydd Caer yn y ddamwain ger Abergwyngregyn ac anafwyd tri arall yn ddifrifol.
Bu Mitsubishi Shogun a fan Renault Master mewn gwrthdrawiad ar y lon orllewinol.
Roedd Mr Loveridge yn teithio yn y Mitsubishi a bu farw wrth safle'r ddamwain.
Mae dau berson arall oedd yn teithio yn y Mitsubishi yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Roedd angen triniaeth ar un person arall oedd yn teithio yn y Mitsubishi.
Mae gyrrwr y fan yn parhau mewn cyflwr hynod ddifrifol ac mae'n derbyn triniaeth ar gyfer anafiadau i'w ben a'i wddf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2012