Llyfrgell Genedlaethol: Paentiadau olew ar y we

  • Cyhoeddwyd
Joe Calzaghe gan Mark DaveyFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Mae paentiadau olew cyfoes yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys portread Joe Calzaghe.

Mae paentiadau olew arlunwyr enwog fel Turner, Gainsborough a Kyffin Williams ymysg 1,950 o baentiadau mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn eu gosod ar-lein.

Mae'r cynllun mewn partneriaeth â'r BBC a Sefydliad Catolog Cyhoeddus (SCC) ac yn cynnwys gwaith Gwen ac Augustus John, Benjamin West a Ceri Richards.

Mae'r lluniau wedi'u gosod ar wefan Your Paintings.

Yn ôl Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Andrew Green, mae'r prosiect newydd hwn yn ychwanegu dimensiwn arall at fwriad y sefydliad i hybu Cymru ar draws y byd.

'Prosiect anferthol'

Mae paentiadau olew cyfoes yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys portreadau o'r bêl droediwr Ryan Giggs a'r paffiwr Joe Calzaghe.

"Y paentiadau olew oedd y casgliad cyntaf i gael ei gyhoeddi gan y llyfrgell," meddai Mr Green.

Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r casgliad yn cynnwys paentiadau Augustus John

Mae cyfraniad y Llyfrgell Genedlaethol yn rhan o gynllun ar draws y Deyrnas Unedig i ddangos 200,00 paentiadau olew ar-lein.

Dywedodd cyfarwyddwr y SCC, Andrew Ellis: "Does dim un wlad erioed wedi dechrau prosiect anferthol fel hwn i ddangos eu casgliad cyfan ar-lein.

"Bydd y prosiect hwn yn dangos i'r byd fod gan y Deyrnas Unedig gasgliad anhygoel o baentiadau olew."

Dywedodd cyfarwyddwr cynnwys archif y BBC , Roly Keating: "Mae ein partneriaeth gyda'r SCC yn crynhoi nifer o uchelgeisiau'r BBC fel cefnogwr y celfyddydau yn y Deyrnas Unedig ac fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol