Gostyngiad yn nifer achosion TB
- Cyhoeddwyd

Bu gostyngiad yn nifer achosion TB yng Nghymru
Bu gostyngiad yn nifer achosion y diciâu yng Nghymru o 12% rhwng 2010-2011.
Mae'r tuedd yn groes i'r hyn sydd wedi ei gofnodi ar gyfer y Deyrnas Unedig, lle bu cynnydd o 5% i 9,042.
Yng Nghymru gostyngodd y nifer o 150 i 132.
Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi gan Asiantaeth Diogelu Iechyd ar drothwy Diwrnod TB y Byd.
Mae TB yn cael ei achosi gan facteria ac yn cael ei drosglwyddo wrth i berson disian neu beswch.
Dywedodd yr Athro Ibrahim Abubakar, pennaeth adran TB (ADI) y dylai'r data diweddara gael ei drin yn ofalus oherwydd bod y niferoedd yn debygol o newid.
Byddai hyn yn digwydd oherwydd bod rhai achosion heb ddod i'r amlwg eto, yn ôl yr Athro Abubakar
Straeon perthnasol
- 10 Mawrth 2009
- 9 Mawrth 2009
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol