Mam a thad yn gwadu llofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae mam wedi gwadu achosi niwed i'w mab pedwar mis oed mewn achos llofruddiaeth yn Llys y Goron Preston.

Bu farw Lucas Irvine mewn ysbyty yn Nhachwedd ar ôl digwyddiad yn ei gartref yng Nghaerhirfryn.

Mae Karen Irvine, 19, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac yn dweud mai ei phartner Christopher Roberts o Drefyclawdd, Powys oedd yn gyfrifol.

Mae'r ddau yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, dynladdiad ac o ganiatáu marwolaeth plentyn.

Yn ôl Dennis Watson QC roedd y ddau ddiffynnydd wedi dweud celwyddau yn gyson ac wedi newid eu stori ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd i'r babi

"Mae'n amlwg bod un o'r rhain wedi ysgwyd Lucas, am hynny does dim amheuaeth. Y nhw oedd yr unig bobl yn y tŷ. "

Clwydodd y llys fod archwiliad post mortem yn dangos fod Lucas wedi marw o anafiadau i'r pen a'r asgwrn cefn "nad oedd wedi eu hachosi drwy ddamwain."

Llipa

Yn ôl y post mortem roedd yr anafiadau yn gyson â'r hyn oedd i'w ddisgwyl o "ysgwyd bwriadol a ffyrnig."

Mae Ms Irvine yn gwadu iddi geisio celu yr hyn a ddigwyddodd.

Mae hi'n honni iddi weld Mr Roberts, 19 oed, yn dal Lucas, oedd mewn cyflwr llipa, yn ei freichiau ar frig y grisiau.

"Dywedodd wrthyf ei fod yn meddwl bod Lucas wedi marw," meddai.

Gofynnodd Shaun Smith QC, ar ran Ms Irvine: "A wnaethoch chi unrhyw beth i achosi cyflwr Lucas?"

Atebodd: "Na."

Dywedodd fod Mr Roberts, tad Lucas, wedi ceisio adfywio'r babi.

Wrth groesholi gofynnodd Mr Watson: "Ydach chi'n derbyn fod Lucas wedi marw oherwydd bod rhywun wedi ei ysgwyd?"

Atebodd: "Ydw."

Gofynnodd Mr Watson: "Dim ond dau berson oedd yn y tŷ'r noson honno y gallai wedi gwneud hyn, y chi a Mr Roberts. Pwy wnaeth o?"

Atebodd: "Christopher."

Eglurhad

Dywedodd ei bod yn derbyn nad oedd wedi dweud yr un stori yn wreiddiol, ond nad oedd hi'n meddwl yn glir.

Yn ôl Mr Watson roedd Ms Irvine wedi rhoi'r un eglurhad a'i chyd ddiffynnydd mewn neges 999 - sef bod Lucas wedi tagu wrth fwyta ac wedi stopio anadlu.

"Rydym yn awgrymu ei bod yn yr ystafell pan gafodd Lucas ei hysgwyd.

"Rydym yn awgrymu eich bod wedi dweud yr un celwydd."

Mae hi'n gwadu hynny.

Clywodd y rheithgor y bydd Mr Roberts yn ei dystiolaeth yn dweud ei fod o allan o'r ystafell pan aeth y babi yn ddifrifol wael.

Mae'r achos yn parhau.