Cyhuddo dyn o achosi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 27 oed o Queensferry yn Sir y Fflint wedi ymddangos gerbron ynadon ar gyhuddiad o achosi marwolaeth ffrind drwy yrru'n beryglus.

Daeth David Doherty, sy'n fab i Paddy Doherty o'r rhaglen My Big Fat Gypsy Wedding, i Lys Ynadon Caernarfon ar faglau.

Cafodd gais am fechnïaeth ei wrthod a chafodd ei gadw yn y ddalfa.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ar Ebrill 2.

A55

Bu farw James Loveridge, 38, mewn damwain ar yr A55 ger Talybont yng Ngwynedd ddydd Sul Mawrth 18.

Mae David Doherty hefyd wedi ei gyhuddo o beidio â stopio ar ôl damwain, ac o beidio â rhoi gwybod am y ddamwain.

Fe'i cyhuddwyd hefyd o fod yn gyrru heb yswiriant ac o gymryd cerbyd Mitsubishi Shogun heb ganiatâd y perchennog.

Dywedodd cyfreithiwr Mr Doherty ei fod e'n gwadu mai ef oedd y gyrrwr.

Bu farw Mr Loveridge, oedd yn teithio yn y Shogun, ar ôl gwrthdrawiad gyda fan Renault oedd wedi parcio mewn culfan.

Aed â thri o deithwyr eraill y Shogun i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae gyrrwr y fan mewn cyflwr hynod ddifrifol yn yr ysbyty.

Mae'r heddlu wedi galw am dystion i'r ddamwain ddigwyddodd rhwng 3.30am a 4am.

Cafodd angladd Mr Loveridge ei gynnal ddydd Iau.