Corff dyn mewn camlas ym Mhontardawe
- Cyhoeddwyd

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101
Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod mewn camlas ger Stryd Herbert ym Mhontardawe, Cwm Tawe.
Credir bod y dyn yn ei ddauddegau hwyr neu dridegau cynnar.
Daethpwyd o hyd i'w gorff tua 11.00am ddydd Gwener.
Dywedodd Heddlu'r De fod y farwolaeth yn anesboniadwy ond nad oedd yr amgylchiadau'n amheus ar hyn o bryd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol