Dwyn o geblau rheilffordd

  • Cyhoeddwyd
Cledrau (generic)Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae ceblau newydd wedi eu cyflwyno, sydd yn ôl yr arbenigwyr, yn anoddach i'w dwyn

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cyhoeddi bod dyn wedi ei garcharu am bedair blynedd am ddwyn ceblau gwerth £20,000.

Yn ôl yr heddlu, cafodd Christopher John Mansfield, 33 oed, o Ffordd Chaffinch, Casnewydd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener ar ôl pledio'n euog i dri achos o ddwyn ceblau.

Digwyddodd y troseddau yn ardaloedd Maesglas a Dyffryn yng Nghasnewydd rhwng 8 Rhagfyr 2010 a 6 Ionawr 2011.

Mae Network Rail a'r heddlu yn dwysáu ymdrechion i ddal lladron sy'n dwyn ceblau a metal oddi ar gledrau yng Nghymru.

£1 miliwn

Maen nhw'n honni bod hyn yn costio tua £1 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth rheilffordd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae nifer o achosion o ddwyn ceblau ar hyd rhwydwaith Cymru a'r Gororau wedi treblu o 28 yn 2009/10 i 84 yn 2010/11.

Honnir mai o ganlyniad i golli ceblau sy'n rheoli'r signalau a'r pwyntiau y mae dros 600 awr o oedi yn yr ardal.

"Mae hyn yn achos troseddol difrifol iawn ac mae'n rhaid eu hatal," meddai Network Rail.

"Bob dydd mae 'na oedi i deithwyr ac i lwythi y mae'r economi yn ddibynnol arnynt oherwydd oedi gan fod 'na ladron wedi dwyn rhannau allweddol o'r cledrau."

Yn ôl Network Rail, maen nhw'n credu mai'r rheswm am ddwyn ceblau yw'r cynnydd yng ngwerth copr.

'Neges glir'

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi sefydlu tasglu a fydd yn cynnwys mwy o blismyn ar ddyletswydd yn cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd ger y cledrau a chydweithio mewn partneriaeth gyda'r Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, Network Rail a chyrff eraill.

"Rydym yn gweithio'n galed i daclo'r mater yma, ac wedi gweld cynnydd yn nifer y rhai sydd wedi cael eu carcharu," meddai'r Ditectif Cwnstabl Chris Bolton ar ran Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

"Rydym yn benderfynol o anfon neges glir bo hi'n annerbyniol ymosod ar strwythur y rheilffordd a bod yr heddlu a'r diwydiant rheilffyrdd yn cydweithio i daclo'r broblem."

Mae safleoedd o'r fath o dan oruchwyliaeth fanylach gyda hofrenyddion, camerâu cylch cyfyng a larymau yn fodd o geisio atal lladron.

Mae ceblau newydd wedi eu cyflwyno, sydd yn ôl yr arbenigwyr, yn anoddach i'w dwyn.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am achosion o'r fath fe ddylen nhw gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 40 50 40 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol