Penwythnos pwysig i Wrecsam a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae'n benwythnos pwysig i'r ddau dîm o Gymru yn Uwchgynghrair Blue Square Bet.
Mae Wrecsam wedi cael 10 diwrnod o orffwys yn dilyn eu buddugoliaeth ysgubol o 5-0 yn erbyn Ebbsfleet.
Ers hynny mae Fleetwood wedi agor bwlch o chwe phwynt ar frig y tabl, ond mae gan Wrecsam ddwy gêm wrth gefn.
Bydd Wrecsam yn croesawu Forest Green Rovers i'r Cae Ras, tra bod gan Fleetwood dasg dipyn anoddach wrth iddyn nhw wynebu'r tîm sy'n drydydd, Mansfield.
Ben arall y tabl, bydd rhaid i Gasnewydd rhoi meddyliau am daith i Wembley o'r neilltu wrth iddyn nhw geisio sicrhau eu bod yn aros yn yr adran y tymor hwn.
Maen nhw ddau bwynt yn uwch na'r pedwar isaf fydd yn disgyn ar ddiwedd y tymor, ond oherwydd eu campau yn nhlws yr FA, mae gan dîm Justin Edinburgh hefyd ddwy gêm wrth gefn.
Taith i Lincoln - sydd ddau le yn is na nhw yn y tabl - sy'n disgwyl Casnewydd ddydd Sadwrn.