Diwedd cyfnod i brynwyr recordiau

  • Cyhoeddwyd

Bydd Recordiau Cob ym Mangor, Gwynedd, yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn wedi 33 o flynyddoedd.

Mae'r siop yn enwog drwy'r DU wedi iddi gael ei sefydlu fel cangen o siop wreiddiol y Cob ym Mhorthmadog.

Nid yw'r gangen wreiddiol honno yn cau o gwbl.

Dywedodd Owen Hughes, perchennog siop Bangor, fod gwerthiant ar-lein a chryno ddisgiau yn golygu nad oedd y siop bellach yn talu ffordd.

"Yn sicr mae'n ddiwrnod trist i ni, ac yn ddiwrnod trist i nifer o gwsmeriaid teyrngar sydd gennym o hyd," meddai Mr Hughes.

Pwysau'r rhyngrhwyd

"Ond grym economaidd sydd wedi gorfodi'r penderfyniad arnom - nid yw'n ymarferol i gario 'mlaen.

"Mae prydles y siop yn dod i ben, ac roedd rhaid i mi benderfynnu mai nawr yw'r amser i adael."

Agordd y siop ar Stryd Fawr Bangor ym 1979 yn dilyn llwyddiant y siop recordiau ail-law sy'n dal ar agor ym Mhorthmadog.

Am dros 30 mlynedd bu'r siop yn gyrchfan i gasglwyr recordiau ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.

Bu hefyd yn ganolfan bwysig i fandiau Cymraeg newydd, wrth i bartneriaethau ffurfio wrth bori drwy'r miloedd o recordiau feinyl a chryno ddisgiau yn y siop.

Ychwanegodd Owen Hughes: "Gobeithio ein bod wedi chwarae ein rhan.

"Mae nifer o'n cwsmeriaid yn gysylltiedig â cherddoriaeth mewn amryw ffyrdd.

"Roedden ni'n ceisio creu 'buzz' am y sîn gerddorol yn gyffredinol, oherwydd dyna yw ein diddordeb."

'Ffarwelio mewn steil'

Bu nifer o ddigwyddiadau byw i nodi'r achlysur, ac fe fu BBC Radio Cymru yn darlledu'n fyw o'r siop ddydd Sadwrn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol