Gwirfoddolwyr yn cynnig cymorth i fusnesau
- Cyhoeddwyd

Mae busnesau un o'r ardaloedd sydd â'r lefel uchaf o ddiweithdra yng Nghymru yn cael cynnig cymorth gwirfoddolwyr fel rhan o gynllun newydd.
Mae cynllun Enterprise Facilitation For Effective Community Transformation - EFFECT Blaenau Gwent - yn ymweld â busnesau lleol i weld ym mha feysydd y maen nhw angen cymorth, boed hynny'n farchnata, cyllid neu adeiladau.
Mae EEFECT wedyn yn mynd yn ôl at griw o wirfoddolwyr i weld os oes ganddynt y sgiliau perthnasol er mwyn cynnig cymorth.
Daeth y syniad yn wreiddiol o gynlluniau tebyg yng nghefn gwlad Awstralia, ac fe gawson nhw'u creu gan Dr Ernesto Sirolli gyda'r nod o fod yn rhan o'r gymuned leol trwy gynnig cefnogaeth.
'Rhwydwaith'
Hwylusydd y cynllun ym Mlaenau Gwent yw Moe Forouzan, ac mae ganddo gefnogaeth gan fwrdd sy'n cynrychioli'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ac yn derbyn grantiau.
Dywedodd: "Mae nifer o bobl yn dod atom gan ddweud 'Dwi ddim yn gwybod lle i fynd, ac mae angen help arnaf gyda marchnata' neu bethau tebyg.
"Fedra i wedyn ddefnyddio ein rhwydwaith leol sydd yn gallu arbenigo mewn cymaint o feysydd gwahanol - unrhyw faes lle mae angen cymorth a dweud y gwir.
"Bwriad y cynllun yw creu economi gadarn lle gallwn greu swyddi a gweld ein busnesau yn tyfu a datblygu."
Mae 60 o bobl ar y panel gydag ystod eang iawn o sgiliau ac arbenigedd ym myd busnes, ac maen nhw'n cyfarfod yn fisol i glywed am anghenion busnesau lleol.
Ychwanegodd Mr Fouazan os nad oes rhywun ar y panel gyda'r sgiliau perthnasol, yna maen nhw'n ceisio dod i gysylltiad â rhywun arall yn lleol all helpu, yn aml heb godi tâl am wneud hynny.
Bob cyfandir
Credir mai dyma'r cynllun cyntaf yng Nghymru sy'n seiliedig ar gynllun gwreiddiol Dr Sirolli ym 1985, ac eisoes mae cynlluniau tebyg wedi eu sefydlu mewn gwledydd ar bob cyfandir.
Yn y flwyddyn gyntaf, mae EEFECT Blaenau Gwent wedi cynnig cymorth i bron 140 o gleientau, a dywedodd Mr Farouzan: "Fy nghenhadaeth yw i wneud Blaenau Gwent yn lle gwell - rydym bob tro'n clywed am y pethau negyddol.
"Rwyf am ddod â swyddi i'r ardal, ac i gynorthwyo pobl sydd â syniadau."