Scottish Power yn ceisio symud swyddi

  • Cyhoeddwyd
Logo Scottish PowerFfynhonnell y llun, Other

Mae cwmni Scottish Power wedi dweud eu bod yn bwriadu symud gweithwyr o'u swyddfeydd yng Nghaernarfon a Queensferry i'w swyddfa fwy yn Wrecsam.

Aeth y cwmni drwy broses debyg yn Nhachwedd 2011 er mwyn cyfuno adnoddau yn Yr Alban, ac fe fydd y broses honno wedi ei chwblhau yn ystod 2013.

Mae 32 o weithwyr yn y swyddfa yng Nghaernarfon a 10 yn Queensferry, a'r bwriad yw eu symud i Wrecsam a Warrington lle maen nhw'n cyflogi dros 600 o staff.

Adolygiad

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Scottish Power:

"Yn dilyn adolygiad llwyddiannus i'n gweithredoedd yn Yr Alban, mae'r cwmni wedi penderfynu cynnal adolygiad tebyg yng Nghymru a Lloegr, ac fe fyddwn yn cyfuno ein swyddfeydd yng Nghaernarfon a Queensferry gyda'r swyddfeydd presennol yn Wrecsam a Warrington.

"Y bwriad yw adleoli'r 10 o weithwyr sy'n gweithio yn Queensferry ar hyn o bryd i Wrecsam, ac fe fyddwn yn eu talu am unrhyw gostau teithio ychwanegol.

"Bydd y 32 o weithwyr yng Nghaernarfon yn cael cynnig symud i Wrecsam, ond efallai y bydd rhai gweithwyr yn penderfynu nad yw hi'n ymarferol i deithio bob dydd i Wrecsam.

"Fe fydd gan y rheiny gyfle i wneud cais am swyddi eraill o fewn Grŵp Scottish Power, neu ofyn am ddiswyddo gwirfoddol.

"Bydd y broses hon yn dod i ben ym Mehefin 2012.

"Fe fydd gan weithwyr Caernarfon hefyd y cyfle i newid lleoliad gwaith am gyfnod prawf o dri mis er mwyn ystyried yn llawn os yw hynny'n briodol iddyn nhw."

Gwasanaeth Cymraeg

Pwysleisiodd Scottish Power eu hymrwymiad i wasanaethau yn yr iaith Gymraeg, ac fe fydd hynny'n parhau o'r swyddfa yn Wrecsam.

Mae Aelod Seneddol Caernarfon, Hywel Williams, wedi galw am drafodaethau brys gyda Scottish Power, a dywedodd:

"Mae Scottish Power yn bwriadu adleoli staff Caernarfon i Wrecsam - taith ddyddiol o dros 125 o filltiroedd.

"Yn amlwg dyw hynny ddim yn rhywbeth ymarferol i'r mwyafrif, ac i bob pwrpas bydd yn arwain at ddiswyddo pobl leol.

"Mae hwn yn ergyd arall i'r economi leol a'r gweithlu wrth i wasanaeth sy'n bwysig i'r cyhoedd symud i ddwyrain Cymru.

"Mae gweithwyr Caernarfon yn darparu gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid ac rwy'n amau os fydd Scottish Power yn medru parhau gyda hynny os fyddan nhw'n symud.

"Mae adroddiadau bod sefydliadau eraill wedi cael trafferth recriwtio staff yn Wrecsam sydd â'r sgiliau perthnasol ac sy'n siarad Cymraeg."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol