Trafod pryderon am ffenestri

  • Cyhoeddwyd
Gwestai yn LlandudnoFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae ffenestri a drysau UPVC wedi eu gwahardd yn rhannau o Landudno

Bydd cynrychiolwyr o berchnogion gwestai yn Llandudno yn cwrdd â'u Haelod Seneddol fore Sadwrn i drafod eu pryderon am ffenestri.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddar bod Cyngor Conwy yn dechrau gweithredu polisi o beidio caniatáu ffenestri uPVC ar adeiladau'r dref.

Mae hynny yn rheol er mwyn gwarchod treftadaeth Fictorianaidd y dref.

Ond mae nifer wedi mynegi pryder, gan ddweud bod rhai o'r ffenestri wedi cael eu gosod ers 30 mlynedd neu fwy, ac mewn rhai achosion mewn gwestai sydd bellach wedi newid dwylo.

Bydd Guto Bebb AS yn cwrdd gyda rhai o'r perchnogion er mwyn trafod y pryderon.

Dywedodd aelod Aberconwy fod pawb yn derbyn bod statws ardal gadwraeth Llandudno yn hanfodol i lwyddiant economaidd y dref.

Pan ddaeth y mater i'r amlwg ym mis Chwefror dywedodd: "Mae pobl yn ymwybodol na ddylai ardal gadwraeth gael ffenestri uPVC, does gen i ddim dadl gyda hynny.

"Y broblem yw bod gennym enghreifftiau lle mae ffenestri wedi cael eu gosod ers 20 neu 30 o flynyddoedd.

"Mae'n ymddangos bod safiad y cyngor yn mynd yn fwyfwy ymosodol o safbwynt ffenestri sydd wedi bod yn eu lle ers chwarter canrif."

Mae Cyngor Conwy wedi dweud y byddan nhw'n ystyried camau gorfodaeth er mwyn gwarchod statws cadwraeth y dref er mwyn hybu twristiaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol