Phillip Price ar y blaen yn Morocco
- Cyhoeddwyd

Mae gan y golffiwr Phillip Price gyfle i ailgynnau ei yrfa wedi rownd ardderchog yng nghystadleuaeth Tlws Hassan ym Morocco ddydd Gwener.
Oherwydd gwyntoedd cryfion, bu oedi cyn dechrau chwarae'r ail rownd, ac er nad yw'r rownd honno wedi ei chwblhau eto, mae Price ar y blaen.
Cafodd rownd o 66 ddydd Gwener i'w adael ergyd ar y blaen i Jose Manuel Lara o Sbaen.
Nid yw Price wedi gorffen yn y 100 uchaf yn Ewrop ers 2004, a'r llynedd bu ond y dim iddo golli ei gerdyn proffesiynol.
Dywedodd Price: "Roedd hi'n anhygoel o wyntog ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n anodd iawn heddiw, ond mae'n syndod pa mor dawel oedd hi wedyn.
"Mae'n amser hir iawn ers i mi fod ar y blaen mewn cystadleuaeth - mae'n braf bod yn ôl."
O ran gweddill y Cymry yn y gystadleuaeth, bu'n ddau ddiwrnod siomedig i Rhys Davies a Bradley Dredge.
Er nad yw'r un o'r ddau wedi medru gorffen yr ail rownd, prin yw gobeithion i ddau o gymhwyso ar gyfer y drydedd rownd.
Mae pethau ychydig yn well ar Jamie Donaldson - wedi tri thwll yn ei ail rownd mae yntau un ergyd yn well na'r safon.
Pencampwriaeth Tlws Hassan - Morocco :-
1. Phillip Price (Cymru) = -10 (68;66)
2. Jose Manuel Lara (Sbaen) = -9 (70;65)
=3. Joel Sjoholm (Sweden) = -8 (70;66)
=3. James Kingston (De Affrica) = -8 (17 twll o'r ail rownd)
Gweddill y Cymry
=41. Jamie Donaldson = -1 (wedi 3 thwll o'r ail rownd)
=75. Bradley Dredge = +2 (heb ddechrau'r ail rownd)
=91. Rhys Davies = +4 (wedi 3 thwll o'r ail rownd)