Bala a Chastell-nedd yn rhannu'r pwyntiau

  • Cyhoeddwyd
Uwchgyngrhair CymruFfynhonnell y llun, Not Specified

DYDD SUL

Bala 2-2 Castell Nedd

Bu'n rhaid i'r Bala a Chastell-nedd rannu'r pwyntiau yn dilyn gêm gystadleuol brynhawn Sul.

Yr ymwelwyr sgoriodd gôl gynta'r ornest pan rwydodd Craig Hughes ar ôl 22 munud.

Ond fe ddaeth y tîm cartref yn gyfartal naw munud yn ddiweddarach pan rwydodd Ian Sheridan cyn i Gastell-nedd fynd ar y blaen unwaith eto pan sgoriodd Hughes ei ail gôl funud cyn yr egwyl.

Connall Murtagh sgoriodd ail gôl Y Bala wedi 78 munud i gipio pwynt i'r tîm cartref.

DYDD SADWRN

Bangor 2-2 Llanelli

Collodd Bangor gyfle euraid i gau'r bwlch rhyngddynt a'r tîm sydd ar frig Uwchgynghrair Cymru - Y Seintiau Newydd - i ddau bwynt ddydd Sadwrn.

Roedd Bangor ddwy gôl ar y blaen erbyn hanner amser yn Nantporth wedi i Les Davies (17 munud) ac Alan Bull (45 munud) rwydo i'r tîm cartref.

Ond brwydrodd yr ymwelwyr yn ôl yn yr ail hanner drwy goliau gan Jordan Follows (77 munud) a Chris Venables (86 munud).

Bellach mae Bangor bedwar pwynt y tu ôl i'r Seintiau Newydd ac mae Llanelli yn dal yn y pedwerydd safle.

Caerfyrddin 0-3 Aberystwyth

Cododd Aberystwyth uwchben Caerfyrddin ar waelod Uwchgynghrair Cymru yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus gan yr ymwelwyr ddydd Sadwrn.

Aneurin Thomas sgoriodd gôl gyntaf Aberystwyth wedi pedwar munud.

Doedd dim mwy o goliau tan y munudau olaf pan rwydodd Josh Kellaway (82 munud) a Wyn Thomas (87 munud) i selio'r fuddugoliaeth i Aberystwyth.

NOS WENER

Y Sentiau Newydd 2-1 Prestatyn

Mae'r Seintiau Newydd wedi agor bwlch o bum pwynt ar frig Uwchgynghrair Cymru o drwch blewyn ar faes Neuadd y Parc.

2-1 oedd hi rhwng y Seintiau a Phrestatyn, ond roedd angen gôl yn y funud olaf i sicrhau'r pwyntiau.

Yn absenoldeb eu prif sgoriwr Greg Draper, fe sgoriodd Ryan Fraughan wedi 14 munud gan adael i'r cefnogwyr ddisgwyl y fuddugoliaeth fyddai wedi rhoi eu tîm saith pwynt yn glir o Fangor.

Ond cyn yr egwyl fe rwydodd Ross Stephens i unioni'r sgôr.

Er i'r Seintiau bwyso'r drwm yn yr ail hanner, doedd dim mwy o goliau tan y funud olaf wrth i Sam Foley achub embaras i'r Seintiau.

Mae pwysau nawr ar Fangor i gau'r bwlch i ddau bwynt pan fyddan nhw'n croesawu Llanelli i Nantporth ddydd Sadwrn.

Lido Afan 2-2 Port Talbot

Roedd tipyn o gêm yn y darbi lleol rhwng Lido Afan a Phort Talbot.

Mewn hanner cyntaf digon di-fflach, yr ymwelwyr gafodd yr unig gôl diolch i Cortez Belle.

Pan aeth Port Talbot ymhellach ar y blaen wedi 75 munud roedd hi'n ymddangos mai nhw fyddai'n cipio'r triphwynt.

Ond yna bedwar munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Liam Hancock i'r tîm cartref cyn i Carl Evans sgorio un arall gyda chwe munud yn weddill i sicrhau pwynt i'r dîm.

Airbus UK Brychdyn 3-1 Y Drenewydd

Digon hawdd oedd hi i Airbus, a digon siomedig unwaith eto i'r Drenewydd.

Roedd y tîm cartref 3-0 ar y blaen cyn yr egwyl diolch i goliau gan Adam Worton, Neville Thomson a Mike Hayes.

Er i Zack Evans rwydo o'r smotyn i'r Drenewydd wedi 80 munud, gôl gysur yn unig oedd honno.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol