RaboDirect: Gleision 14-26 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Gleision 14-26 Scarlets
Sgoriodd Andy Fenby ddau gais i helpu'r Scarlets guro'r Gleision yn Stadiwm Caerdydd nos Sadwrn.
Hwn oedd y drydedd fuddugoliaeth o'r bron i Fois y Sosban ac yn awr mae yna flwch o bum pwynt rhyngddynt a'r Gleision, sydd yn seithfed safle tabl y RaboDirect 12.
Roedd y gêm yn ddi-sgôr tan bedwar munud cyn yr egwyl pan sgoriodd Fenby ei gais cyntaf a llwyddodd Aled Thomas gyda'r trosiad.
Sgoriodd Fenby ei ail gais bedwar munud wedi'r egwyl cyn i Thomas lwyddo gyda'r trosiad.
Cafodd y Gleision i ymateb wedi i Sean lamont gael ei anfon i'r gell gosb am ddeng munud am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol.
Sgoriodd y Gleision eu cais cyntaf ar ôl 56 munud pan sgoriodd Alex Cuthbert gais wedi iddo redeg o hanner ei hun i dirio'r bêl cyn i Ceri Sweeney lwyddo gyda'r trosiad.
Ond tarodd y Scarlets yn ôl wyth munud yn ddiweddarach pan sgoriodd y mewnwr, Gareth Davies, ar ôl i Gavin Henson fethu ei daclo.
Ond sgoriodd Casey Laulala o dan y pyst i'r Gleision yn fuan wedi hynny a phan lwyddodd Sweeney gyda'r trosiad roedd y bwlch rhwng y ddau dîm yn bum pwynt.
Daeth George North i'r cau fel eilydd gyda deng munud o'r gêm yn weddill ac ef greodd y cais a enillodd yr ornest i'r ymwelwyr.
Bylchodd North drwy rengoedd y Gleision cyn dadlwytho i Dominic Day a diriodd y bêl cyn i Thomas lwyddo gyda'r trosiad.
Gleision: Chris Czekaj (Gavin Henson, 41); Alex Cuthbert, Casey Laulala, Dafydd Hewitt, Tom James; Dan Parks (Ceri Sweeney, 51), Lloyd Williams (Richie Rees, 75); John Yapp (Sam Hobbs, 61), Ryan Tyrell (Marc Breeze, 70), Scott Andrews (Nathan Trevett, 75), Macualey Cook, James Down (Maama Molitika, 53), Michael Paterson (Cory Hill, 75), Josh Navidi, Xavier Rush (c).
Scarlets: Liam Williams; Sean Lamont, Gareth Maule (c) (George North, 70), Scott Williams (Jonathan Davies, 32), Andy Fenby, Aled Thomas, Gareth Davies; Rhodri Jones (Phil John, 66), Ken Owens (Matthew Rees, 59), Deacon Manu (Peter Edwards, 58), Dominic Day, Damian Welch (Sione Timani, 53), Josh Turnbull, Johnathan Edwards, Ben Morgan (Kieran Murphy, 37).
Eilydd: Liam Davies.
Leinster 22-23 Gweilch
Efallai bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn atgof pell eisoes, ond roedd peth o ysbryd hynny ym mherfformiad y Gweilch yn Leinster nos Wener.
Roedd y tîm cartref wedi bod ar rediad o 20 gêm heb golli, ac hefyd yn croesawu Brian O'Driscoll yn ôl i'w rhengoedd wedi anaf.
Ond y Gweilch gipiodd fuddugoliaeth haeddiannol er iddyn nhw ei gadael hi'n hwyr i wneud hynny.
Roedd cais Ian Madigan wedi sicrhau mai Leinster oedd ar y blaen ar yr egwyl, ac fe arhosodd y Gwyddelod ar y blaen am y rhan fwyaf o'r ail hanner wrth i'r Gweilch ildio pum cic gosb.
Ond yn wedi 77 munud fe groesodd Richard Hibbard i ddod â'r ymwelwyr o fewn pwynt i Leinster, ac fe drosodd Dan Biggar yn wych i gipio'r fuddugoliaeth.
Mae'r pwyntiau yn codi'r Gweilch i'r ail safle yn y tabl.
Caeredin 15-29 Dreigiau
Roedd pethau tipyn haws i'r Dreigiau ar daith i Gaeredin.
Daeth dau gais i Tonderai Chavhanga yn yr hanner cyntaf i roi mantais i wyr Gwent o 23-12 ar yr egwyl.
Roedd yr ail hanner yn llawer distawach, a dim ond ciciau ddaeth â pwyntiau i'r ddau dîm yn yr ail gyfnod.
Yn y gêm arall nos Wener, roedd buddugoliaeth i Glasgow dros Aironi o 29-6.