Achub dau gafodd eu dal gan y llanw yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Y gred yw bod y myfyrwyr wedi mynd i drafferthion tra'n cerdded ar draeth o dan Graig Glais
Fe gafodd dau fyfyriwr eu hachub gan Wylwyr y Glannau nos Wener ar ôl mynd i drafferthion ar draeth o dan Graig Glais yn Aberystwyth.
Fe gafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty yn dioddef o hypothermia ond fe'u rhyddhawyd o'r ysbyty yn ddiweddarach.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw am 6:46pm ddydd Gwener.
Y gred yw eu bod wedi eu dal gan y llanw pan oeddent yn cerdded ar draeth o dan Graig Glais.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol