Archesgob Caergaint i annerch y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Dr Rowan WilliamsFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Mae Dr Williams wedi ymweld â sawl lleoliad ar ei ymweliad

Bydd Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint, yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Llun.

Fel rhan o'i ymweliad, bydd yn annerch cynulleidfa a fydd yn cynnwys aelodau'r cyhoedd a gwesteion pwysig.

Bydd yn mynegi barn ynghylch y ffactorau hynny sy'n uno a chryfhau cymunedau.

Yn dilyn yr anerchiad, cynhelir sesiwn holi ac ateb gyda'r Archesgob, a gaiff ei chadeirio gan Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru.

Cyn yr anerchiad a'r sesiwn holi ac ateb, bydd Dr Williams yn arsylwi dadl a gynhelir yn Siambr Hywel rhwng pobl ifanc o bob rhan o Gymru.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu ar y cyd gyda CEWC Cymru, elusen addysgol sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu fel dinasyddion gweithgar o Gymru a'r byd.

Ar ddiwedd y ddadl, bydd yn cynnal sesiwn gyda'r bobl ifanc, gan ateb eu cwestiynau.

'Ffigwr allweddol'

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: "Mae'n bwysig ein bod yn gallu uno'r cyhoedd yng Nghymru gyda ffigyrau cyhoeddus allweddol i drafod materion pwysig sy'n wynebu ein cymunedau, ac i sicrhau bod y trafodaethau hynny'n bwydo i mewn i'r broses o wneud penderfyniadau yma yn y Senedd.

"Mae'r Archesgob yn ffigwr allweddol ym mywyd cyhoeddus Cymru a'r Deyrnas Unedig, a bydd yn anrhydedd i mi ei groesawu i'r Senedd."

Daw ymweliad Dr Williams â'r Senedd ar ddiwedd penwythnos o ddigwyddiadau yng Nghymru ar gyfer yr Archesgob sydd wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ym mis Rhagfyr.

Mae o wedi bod wrth y llyw am 10 mlynedd.

Fe fydd yn ymgymryd â swydd newydd fel Meistr Coleg Madlen, Prifysgol Caergrawnt.

Dr Williams, 61 oed, yw'r 104ydd person i ddal y swydd, gan olynu'r Dr George Carey.

Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Dr Williams dderbyn gwahoddiad i ymweld ag Ysgol Ioan Fedyddiwr

Mynychodd yr Archesgob Caergaint wasanaeth ysgol fore Gwener.

Hefyd yn bresennol yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, Aberdâr, oedd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru.

Daeth ymweliad Archesgob Caergaint ar ôl gwahoddiad personol gan ddisgyblion oedd wedi cwrdd â Dr Williams yn Abaty Westminster, Llundain, y llynedd.

Yn ddiweddarach ddydd Gwener traddododd Dr Williams ddarlith flynyddol Cymdeithas Waldo Williams yng Nghapel Pisgah, Llandysilio, Sir Benfro.

Ddydd Sadwrn arweiniodd wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac yna yn siarad mewn lansiad o raglen Llenyddiaeth Cymru

Pregethodd Dr Williams yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf fore Sul cyn ymuno ag Archesgob Cymru i gynnal Gwasanaeth Cymraeg yn Eglwys Sain Ffagan, Trecynon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol