Plaid Cymru yn gobeithio 'dal ei thir'

Mae cadeirydd Plaid Cymru wedi dweud na ellir ystyried canlyniad etholiadau lleol mis Mai fel refferendwm ar arweinyddiaeth Leanne Wood.
Dywedodd Helen Mary Jones fod y blaid yn gobeithio "dal ei thir" ac yn disgwyl wynebu ymgyrch effeithiol gan y blaid Lafur.
Clywodd cynhadledd wanwyn Plaid Cymru hefyd fod y blaid eisoes wedi profi ei gallu i redeg awdurdodau lleol yn effeithiol.
Mae ychydig dros 200 o gynghorwyr gan Blaid Cymru allan o gyfanswm o dros 1,200 ar draws Cymru, ac mae'n arwain dau gyngor sir - Caerffili a Gwynedd.
'Cyfeiriad newydd'
Tanlinellodd Helen Mary Jones mewn cynhadledd i'r wasg taw dim ond chwe wythnos oedd gan y blaid i baratoi am yr etholiadau ers dewis Ms Wood fel arweinydd.
"Beth bynnag yw'r canlyniad, dwi ddim yn meddwl gallwn ni ystyried hwn fel rhyw fath o refferendwm ar sut mae pobl yn ymateb i'n harweinyddiaeth newydd a'n cyfeiriad newydd," meddai.
Mynnodd fod y blaid yn brwydro'n galed i ennill bob pleidlais posib, ond gwrthododd ddarogan os byddai'r blaid yn adennill tir yn ardal enedigol Ms Wood - sef Rhondda Cynon Taf.
Cyn arweinydd cyngor Gwynedd, Alun Ffred Jones fydd yn goruchwylio ymdrechion etholiadol y blaid ym mis Mai.
Mae disgwyl iddo ddweud wrth y gynhadledd yng nghwrs rasio ceffylau Ffos Las, bod Plaid Cymru wedi profi ei gallu i reoli'n effeithiol mewn llywodraeth leol, ond bod yr amser allweddol wedi dod unwaith eto er mwyn mynd ar hyd a lled Cymru er mwyn perswadio etholwyr i'w cefnogi yn y blychau pleidleisio.