Wrecsam a Chasnewydd yn colli
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 1-2 Forest Green Rovers
Cafodd Wrecsam glec i'w gobeithion o ennill Uwchgynghriar Blue Square ar ôl colli i Forest Green Rovers ddydd Sadwrn.
Mae Fleetwood wedi agor bwlch naw pwynt ar frig y tabl wedi iddynt guro Mansfield o ddwy gôl i ddim ddydd Sadwrn.
Er bod gan Wrecsam ddwy gêm wrth gefn fe fydd Fleetwood yn dal tri phwynt y tu blaen i'r Dreigiau pe baen nhw'n ennill y ddwy gêm hynny.
Mae'n ymddangos mai gobaith gorau Wrecsam o ennill yr Uwchgynghrair yn awr yw curo Fleetwood pan fydd y ddau dîm yn herio'i gilydd yn Fleetwood ar Ebrill 10.
Wrecsam sgoriodd gôl gynta'r gêm ar y Cae Ras ddydd Sadwrn pan rwydodd Jake Speight gyda chic o'r smotyn ar ôl 20 munud wedi i Jamie Collins faglu Mark Creighton yn y cwrt cosbi.
Ond cosbodd yr ymwelwyr waith amddiffynol llac gan y Dreigiau pan sgoriodd Matt Taylor ar ôl 64 munud.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Wrecsam pan sgoriodd James Norwodd ail gôl Forest Green Rovers yn funud ola'r gêm i sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr.
Hwn oedd y tro cyntaf i Wrecsam golli gêm gartref yn yr Uwchgynghrair ers mid Medi'r llynedd.
Lincoln 2-0 Casnewydd
Ben arall y tabl fe gafodd Casnewydd glec i'w gobeithion hwythau o aros yn yr adran y tymor hwn.
Bellach mae'r Alltudion pwynt yn unig yn uwch na'r pedwar isaf fydd yn disgyn ar ddiwedd y tymor, er bod ganddynt gemau wrth gefn dros eu gwrthwynebwyr.
Mark McCammon sgoriodd gôl gyntaf Lincoln pan rwydodd yr ymosodwr gyda'i ben wedi 25 munud.
Dyblodd y tîm cartref eu mantais wyth munud yn ddiweddarach pan rwydodd Nutter â chic rydd.
Er bod Casnewydd wedi cyrraedd rownd derfynol Tlws yr FA mae'r Alltudion bellach heb ennill dim un o'u pum gêm ddiwethaf yn y gynghrair.
Straeon perthnasol
- 23 Mawrth 2012