Abertawe 0-2 Everton

  • Cyhoeddwyd
Leon Osman (chwith) yn cystadlu am y bêl gyda Joe AllenFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Leon Osman yn cystadlu am y bêl gyda Joe Allen

Roedd dwy gôl gan Everton yn yr ail hanner yn ddigon i guro Abertawe yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Roedd yr Elyrch yn ceisio ennill eu pedwaredd gêm o'r bron ond roedd yr ymwelwyr yn haeddu eu buddugoliaeth wedi i Baines a Jelovic sgorio'r goliau i Everton yn dilyn hanner cyntaf ddi-sgôr.

Abertawe oedd y tîm gorau yn ystod yr hanner cyntaf ond methodd Danny Graham â chyfle gorau'r hanner pan gafodd ei ymdrech ei arbed gan gôl geidwad yr ymwelwyr, Tim Howard.

Leighton Baines sgoriodd gôl gyntaf Everton pan rwydodd â chic rydd ar ôl 59 munud.

Cyfle euraid

Dyblodd yr ymwelwyr eu mantais pan rwydodd Nikica Jelavic wedi 76 munud o'r ornest ar ôl iddo wastraffu dau gyfle euraid i sgorio cyn hynny.

Abertawe: Vorm, Williams, Taylor, Caulker, Rangel, Britton, Sinclair (McEachran 72'), Routledge (Lita 71'), Allen, Sigurdsson, Graham (Moore 71' )

Eilyddion: Tremmel, tate, Monk, McEachran, Gower, Lita, Moore.

Everton: Howard, Hibbert, Baines, Jagielka, Distin, Neville, Gibson (Heitinga 84') Cahill (Fellaini 58'), Osman, Pienaar, Jelavic.

Eilyddion: Mucha, Heitinga, Fellaini, Stracqualursi, McFadden, Gueye, Anichebe.