Golff: Dau Gymro ymysg y deg uchaf
- Cyhoeddwyd

Mae dau golffiwr o Gymru ymysg y deg uchaf wrth i drydedd rownd cystadleuaeth Tlws Hassan ym Morocco dynnu at ei therfyn nos Sadwrn.
Mae Phillip Price yn gydradd bumed yn y gystadleuaeth wedi iddo gwblhau rownd ardderchog o 66 ddydd Gwener.
Er iddo faglu ar ddechrau'r drydedd rownd roedd e wedi codi yn ôl i'r bumed safle erbyn iddo gwblhau 10 o 18 twll y drydedd rownd.
Nid yw Price wedi gorffen yn y 100 uchaf yn Ewrop er 2004, a'r llynedd bu ond y dim iddo golli ei gerdyn proffesiynol.
Roedd Price tair ergyd y tu ôl i Damien McGrane o Iwerddon sydd ar y blaen gyda sgôr o 12 yn well na'r safon.
Mae Cymro arall, Bradley Dredge, un ergyd y tu ôl i Price ac yn yn gydradd wythfed wedi iddo gwblhau rownd ardderchog o 66 ddydd Sadwrn.
Nos Sadwrn roedd Jamie Donaldson wedi sgorio tair ergyd yn well na'r safon wedi iddo gwblhau 17 twll o'r drydedd rownd ac roedd Rhys Davies un ergyd y tu ôl iddo erbyn i hwnnw gwblhau 13 twll o'r drydedd rownd.
Pencampwriaeth Tlws Hassan - Morocco :-
1. McGrane (Iwerddon) = -12 ( wedi 8 twll o'r drydedd rownd)
=2. Manassero (Yr Eidal) =-11 (wedi 13 twll o'r drydedd rownd)
=2.Lara (Sbaen) = -11 (wedi 8 twll o'r drydedd rownd)
3. Hoey (Gogledd Iwerddon)= -10 (wedi 16 twll o'r drydedd rownd)
=5. Phillip Price (Cymru) = -9 (wedi 10 twll o'r drydedd rownd)
Gweddill y Cymry
=8. Bradley Dredge = -8 (74,68,66)
=39. Jamie Donaldson = -3 (72,68, -) (wedi 17 twll o'r drydedd rownd)
=45. Rhys Davies = -2 (75,69,-) (wedi 13 twll o'r drydedd rownd)
19:30 Nos Sadwrn Mawrth 24 2012.