Tân yn dinistrio carafan yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl i dân ddinistrio carafán yng Ngwynedd fore Sadwrn.
Cafodd dau griw o ddiffoddwyr eu hanfon o Gaernarfon a Phorthmadog i ddiffodd y fflamau yng Nghlynnog Fawr, ger Caernarfon.
Derbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'r alwad toc wedi hanner nos.
Y gred yw bod y tân wedi'i ddechrau'n fwriadol.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol