Ceidwadwyr: Apêl i aelodau Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Ceidwadwyr yr Alban yn cynnal eu cynhadledd wanwyn yn Troon dros y penwythnos.
Penderfynodd Ceidwadwyr Cymru, sef yr ail blaid fwyaf yn y Cynulliad Cenedlaethol, ganslo eu cynhadledd wanwyn nhw rhai wythnosau yn ôl.
Hynny yn ôl pob son oherwydd y gost o drefnu'r fath ddigwyddiad.
Roedd perchenogion gwestai yn Llandudno yn hynod anhapus ac oherwydd pwysau gan aelodau'r Blaid, bu'n rhaid trefnu rali un dydd.
Ystyr datganoli
Felly rali cyn etholiadau mis Mai syn cael ei chynnal yn Llanelwy ddydd Sul.
Neb llai na David Cameron oedd y prif siaradwr yn Troon.
Yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan, fydd yn ceisio denu'r penawdau fel y brif siaradwraig ynghyd ag arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, sef Andrew RT Davies.
Y gred yw y bydd Mr Davies yn pwysleisio ystyr datganoli i'r dinesydd yng Nghymru yn ei araith.
Fe fydd er enghraifft yn mynnu bod polisïau yn fwy effeithiol o gael eu saernïo gan y bobl fydd yn cael eu heffeithio gan y polisïau hynny.
Fe fydd yna apêl uniongyrchol hefyd i aelodau Plaid Cymru sydd yn anhapus gyda'r ffaith fod y Blaid wedi troi i'r chwith o ran ei gogwydd gwleidyddol.
"Os ydach chi'n wladgarwr ac yn ymfalchïo yn eich cymuned, eich iaith, eich treftadaeth a diwylliant Cymreig mae Ceidwadwyr Cymru a chithau o'r un farn, " meddai Andrew RT Davies.
Fe fydd yna addewid y bydd Llywodraeth Geidwadol ym Mae Caerdydd yn rhoi mwy o lais i athrawon a nyrsys ac yn cynnig refferendwm lleol os yw cyngor am godi'r dreth dros dri a hanner y cant.
Y Lleol yw calon gwleidyddiaeth yn ôl un sylwebydd Americanaidd.
Mae unrhyw wleidydd neu Blaid sy'n diystyru hyn ar eu ffordd i ddifancoll!
Straeon perthnasol
- 27 Chwefror 2012
- 20 Ionawr 2012