Hofrennydd awyrlu yn achub dau
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd dau o bobol eu hachub gan hofrennydd yr Awyrlu, ar ôl mynd i drafferthion yn Eryri nos Sadwrn.
Fe gafodd dyn yn ei ugeiniau ei gludo i'r ysbyty ym Mangor gydag anafiadau i'w ben ar ôl syrthio mewn hen chwarel ar Fwlch Llanberis.
Dychwelodd yr hofrennydd i achub dynes tua 30 oed oedd wedi llithro ar yr Wyddfa.