Warburton: Chwarae eto ymhen 6 wythnos

  • Cyhoeddwyd
Sam Warburton, guda Dan Lydiate y tu ôl iddo yn ymosod yn erbyn Ffrainc yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd 2011Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y newyddion yn hwb i dîm Cymru cyn iddynt herio Awstralia mewn tair gêm brawf ym mis Mehefin.

Disgwylir i Sam Warburton ail ddechrau chwarae rygbi ymhen chwe wythnos wedi iddo glywed nad yw wedi gwneud niwed difrifol i'w ysgwydd.

Yn ôl meddygon nid yw capten tîm rygbi a enillodd y Gamp Lawn eleni wedi dioddef "niwed strwythurol" i'w ysgwydd.

Gallai Warburton fod yn holliach erbyn gêm olaf y Gleision y tymor hwn pan fyddant yn herio'r Scarlets ar Fai 5.

Bydd y newyddion yn hwb i dîm Cymru cyn iddynt herio Awstralia mewn tair gêm brawf ym mis Mehefin.

Asesu'r anaf

"Rwy'n gobeithio chwarae rygbi cyn diwedd y tymor," meddai Warburton wrth BBC Cymru.

Cafodd Warburton ei anafu yn ystod y gêm yn erbyn Ffrainc ac roedd yna bryder na fyddai'n gallu chwarae eto am nifer o fisoedd.

Dywedodd y blaenasgellwr 23 oed y byddai'n ymweld ag arbenigwr meddygol yn Llundain unwaith eto ymhen pythefnos er mwyn asesu'r anaf unwaith eto.

Mae Warburton wedi chwarae dim ond wyth gêm i'r Gleision y tymor hwn, yn bennaf am ei fod wedi dioddef anaf i'w ben-glin.

"I fod yn hollol onest mae fy nghorff wedi bod yn crecian ers Cwpan y Byd," meddai Warburton.