Birmingham 1-1 Caerdydd

Fe fethodd Caerdydd â manteisio ar gyfle euraid arall i ddychwelyd i'r chwech uchaf yn y Bencampwriaeth ar ôl gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Birmingham ddydd Mercher.

Byddai Caerdydd wedi codi i'r pedwerydd safle pe baen nhw wedi curo'r Gleision ond mae'r canlyniad hwn yn golygu eu bod yn aros yn yr wythfed safle.

Ond mae'r canlyniad yn golygu bod Birmingham yn codi i'r chweched safle yn y Bencampwriaeth.

Chwaraeodd Caerdydd yn dda ac roeddent yn haeddu ennill pwynt os nad y tri phwynt brynhawn Sul.

Ergyd nerthol

Method y tîm cartref gyfle i fynd ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner pan arbediodd gôl geidwad Caerdydd, David Marshall, gic o'r smotyn gan Mark Cowie wedi i Don Cowie droseddu yn y cwrt cosbi.

Birmingham sgoriodd gôl gynta'r gêm yn erbyn llif y chwarae pan rwydodd Erik Huseklepp ar ôl 68 munud.

Daeth Yr Adar Gleision yn gyfartal ddeng munud yn ddiweddarach pan gurodd ergyd Mark Hudson golwr Birmingham, Boaz Myhill, yn dilyn gwaith da gan Peter Whittingham.

Bu bron i Rudy Gestede ennill y gêm i'r ymwelwyr ond fe gafodd ei ergyd nerthol ei arbed gan Myhill.

Bellach mae Caerdydd wedi ennill dim ond un o'u saith gêm yn y Bencampwriaeth ers iddynt golli yn i Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ar Chwefror 26.

Bydd Caerdydd yn herio Millwall yn Stadiwm Caerdydd am 12:30 pm ddydd Sadwrn Mawrth 31 pan fyddant yn gobeithio cipio tri phwynt am y tro cyntaf ers iddynt guro Dinas Fryste ar Fawrth 10.

Birmingham: Myhill, Caldwell, Pablo, Ramage, Davies, Burke, N'daw, Huseklepp, Mutch, Elliott, King.

Eilyddion:Doyle, Townsend, Gomis, Redmond, Zigic.

Caerdydd: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Turner, Whittingham, Cowie, Lawrence, Gunnarsson, McPhail, Mason.

Eilyddion: Heaton, Blake, Miller, Earnshaw, Gestede.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Southampton 39 +37 78
2. Reading 39 +22 73
3. West Ham 38 +21 69
4. Brighton 39 +8 62
5. Middlesboro' 38 +3 61
6. Birmingham 38 +19 60
7. Blackpool 39 +10 60
8. CAERDYDD 39 +7 60

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.