Golff: Donaldson a Price yn gydradd drydydd.

  • Cyhoeddwyd
Phillip PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Price rownd ardderchog o 66

Daeth Jamie Donaldson a Phillip Price yn gydradd drydydd yng nghystadleuaeth Tlws Hassan ym Morocco ddydd Sul.

Michael Hoey o Ogledd Iwerddon enillodd y gystadleuaeth gyda chyfanswm o 271 ergyd, 17 ergyd yn well na'r safon.

Damien McGrane o Weriniaeth Iwerddon ddaeth yn ail gyda chyfanswm o 274 dros y pedair rownd.

Ond stori'r diwrnod, ac yn wir y gystadleuaeth oedd rownd olaf y Cymro Jamie Donaldson a sgoriodd 61 - record ar gyfer y cwrs.

Cerdyn proffesiynol

Cyflawnodd Donaldson y naw twll cyntaf mewn dim ond 28 ergyd - y sgôr orau am y naw twll cyntaf gan unrhyw un ar y Daith Ewropeaidd yn 2012.

Roedd Donaldson, Cymro arall, Phillip Price, a Robert Coles o Loegr, yn gydradd drydydd gyda chyfanswm o 275, sef 13 yn well na'r safon.

Nid yw Price wedi gorffen yn y 100 uchaf yn Ewrop er 2004, a'r llynedd bu ond y dim iddo golli ei gerdyn proffesiynol.

Pencampwriaeth Tlws Hassan - Morocco :-

1. Michael Hoey (Gogledd Iwerddon) = -17 (74,67,65,65 )

=2.Damien McGrane (Iwerddon) = -15 (65,68,71,70)

=3.JAMIE DONALDSON (CYMRU) = -13 (72,68, 74,61)

=3.PHILLIP PRICE (CYMRU) = -13 (68,66,72,69)

=3.Robert Coles (Lloegr) = -13 (73,70,65,67)

Gweddill y Cymry

=17. Bradley Dredge = -8 (74,68,66,72)

=58. Rhys Davies = +1 (75,69,72,73)