Diffoddwyr yn taclo tanau gwair yn y De

  • Cyhoeddwyd

Bu diffoddwyr yn ceisio rheoli tanau gwair yng Nghwmafan a Sir Fynwy wrth i rai ardaloedd o Gymru fwynhau diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw ddwywaith i ddiffodd tanau ar Fynydd Foel yng Nghwmafan ger Port Talbot brynhawn dydd Sul.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i ddiffodd tân oedd yn effeithio ar 25 acer ym Mryn Arw ger Y Fenni toc wedi 11:00 am ddydd Sul.

Cafodd y diffoddwyr gymorth gan griwiau o ddiffoddwyr o Henffordd a Chaerwrangon i daclo'r fflamau.

Ddydd Sadwrn oedd diwrnod poetha'r flwyddyn yn rhai ardaloedd o Gymru.

Cyrhaeddodd y tymhered 21.7C (71F) ym Mhorthmadog a 21.2C (70F) yn Aberystwyth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol