Gwrthdrawiad: Merch mewn cyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd

Mae merch 17 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Benfro.
Bu'n rhaid i chwech o bobl gael triniaeth yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad rhwng Niwgwl a Solfach ar yr A487 am 3:20pm ddydd Sul.
Bu car Seat Ibiza coch mewn gwrthdrawiad â char Honda CRV glas tywyll.
Mae tîm plismona ffyrdd Heddlu Dyfed powys wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol