Dringwr yn sownd am fwy na thair awr

  • Cyhoeddwyd
Location mapFfynhonnell y llun, Not Specified

Cafodd dringwr ei ddal am dair awr a hanner ar ben rhaff pan aeth ei fraich yn sownd ar graig uwchben bwlch Llanberis yn Eryri.

Roedd y dyn 28 oed o Aberdyfi yn rhan o grŵp o bedwar pan ddisgynnodd ychydig droedfeddi a mynd yn sownd ddydd Sul.

Digwyddodd ar ddringfa rhyw 1,000 o droedfeddi ar Ddinas Cromlech.

Cafodd y dringwr y cyffur morphine i leddfu'r boen cyn cael ei rhyddhau a'i gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Roedd ei gyfeillion wedi ceisio ei rhyddhau am awr cyn ffonio am gymorth.

Aeth aelodau o dîm achub mynydd Llanberis i'r safle, a daeth hofrennydd yr heddlu ag achubwyr ogofâu arbenigol o Sir y Fflint. Bu diffoddwyr tân hefyd yno'n cynorthwyo.