Gwagio fflatiau wedi tân
- Cyhoeddwyd
Cafodd bloc o fflatiau tri llawr yn Abertawe ei wagio nos Sul yn dilyn tân yno.
Cafodd un dyn oedrannus driniaeth am effeithiau anadlu mwg ger yr eiddo yn Pier Street.
Aeth pedair injan dân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i'r digwyddiad am 11:39pm.
Dywedodd llefarydd bod y tân wedi ei ddiffodd erbyn 2:25am fore Llun, a bod y tân wedi ei gyfyngu i lawr isa'r adeilad.