Neges wrth-Seisnig ar reilffordd
- Cyhoeddwyd

Mae fandaliaid wedi difrodi signalau ar drên bach Yr Wyddfa ac wedi paentio slogan "English Out" ar un o adeiladau'r rheilffordd.
Dywedodd perchnogion y rheilffordd bod y difrod wedi ei wneud ger gorsaf Hebron rhywdro rhwng 5pm ddydd Sul a bore Llun.
Mae'r orsaf rhyw 1,000 o droedfeddi uwchben gorsaf Llanberis.
Cafodd yr heddlu wybod am y digwyddiad, a dywedodd rheolwr cyffredinol y rheilffordd, Alan Kendall:
"Mae hyn yn rhywbeth anarferol iawn i ni - does dim byd tebyg wedi digwydd yn yr 11 mlynedd diwethaf i mi wybod.
"Mae'n ymddangos bod rhywun am dargedu'r twristiaid sy'n dod yma ac am iddyn nhw weld y graffiti."
Ychwanegodd Mr Kendall bod staff y rheilffordd eisoes wedi cael gwared â'r paent ac wedi cyfnewid y goleuadau ar y signalau gafodd eu dinistrio.
Agor yn gynt
Roedd yn credu bod pwy bynnag oedd yn gyfrifol wedi gyrru i'r ardal uwchben Llanberis.
"Rwy'n credu mai ôl-ystyriaeth oedd malu'r goleuadau - y prif beth oedd y neges a baentiwyd ar yr adeilad," meddai.
Cafodd y mater ei adrodd i'r heddlu oherwydd y difrod i'r signalau yn hytrach na'r graffiti.
Mae'r rheilffordd wedi bod yn gweithredu amserlen y gaeaf hyd yma eleni, ond bellach maen nhw'n paratoi am agoriad Hafod Eryri ar y copa yn yr haf.
Dywedodd Mr Kendall: "Am flynyddoedd doedden ni ddim yn agor yr adeilad ar y copa tan fis Mai ar y cynharaf, ond gyda'r adeilad newydd mae'n bosib agor erbyn y Pasg.
"Rydym yn gobeithio agor ar y copa yn gynharach fyth eleni. Mae'r paratoadau yn mynd rhagddynt, ac os fydd pethau'n digwydd fel y disgwyl fe allwn ni fod ar agor erbyn diwedd yr wythnos - yn sicr erbyn y Pasg."
Cafodd Hafod Eryri - adeilad gwerth £4.8 miliwn - ei agor ym Mehefin 2009.
Straeon perthnasol
- 7 Tachwedd 2011