Ail achos llofruddiaeth ym mis Awst

  • Cyhoeddwyd
Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref yn 2010

Bydd ail achos dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio bachgen ysgol yn ei gartref yn dechrau ym mis Awst.

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu i farwolaeth wedi iddo agor drws ei gartref yn ardal Y Rhath yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2010.

Fe gafodd rhieni Aamir - Iqbal a Parveen Siddiqi - eu hanafu wrth geisio achub eu mab.

Mae Ben Hope, 37 oed, a Jason Richards, 36 oed, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun y gallai achos y ddau o bosib yng Nghasnewydd bara am hyd at chwe mis.

Cafodd rheithgor yr achos gwreiddiol ym mis Rhagfyr eu rhyddhau am resymau cyfreithiol.