'Problem' dibynnu ar y Wladwriaeth Les

  • Cyhoeddwyd
Dr Rowan WilliamsFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Roedd ei araith ar ddiwedd penwythnos o ddigwyddiadau yng Nghymru.

Mae Archesgob Caergaint wedi dweud wrth y Cynulliad fod dibynnu ar y Wladwriaeth Les yn broblem.

Yn ôl Dr Rowan Williams, roedd yn anghywir meddwl y gallai "darpariaeth ganolog ddatrys popeth."

Yn y Senedd ym Mae Caerdydd roedd yn cyfeirio at yr hyn oedd yn uno cymunedau.

Dywedodd fod ymdeimlad cymuned yn anghydnaws â'r "dybiaeth mai'r Wladwriaeth Les sy'n darparu'r holl atebion i broblemau."

Roedd yn cydnabod fod cyfraniad y Wladwriaeth Les yn enfawr.

"Ond mae 'na broblem gorddibyniaeth. Mae 'na broblem wrth gymryd yn ganiataol mai rhywun arall sy'n datrys problemau ..."

Gadael swydd

Roedd ei araith ar ddiwedd penwythnos o ddigwyddiadau yng Nghymru.

Eisoes mae wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ym mis Rhagfyr. Mae wedi bod wrth y llyw am 10 mlynedd.

Fe fydd yn Feistr Coleg Madlen, Prifysgol Caergrawnt.

Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Roedd disgyblion Ysgol Ioan Fedyddiwr wedi anfon gwahoddiad

Ddydd Gwener aeth i wasanaeth yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, Aberdâr, lle oedd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, yn bresennol.

Roedd disgyblion oedd wedi cwrdd â Dr Williams yn Abaty Westminster, Llundain, y llynedd, wedi anfon gwahoddiad.

Wedyn traddododd Dr Williams ddarlith flynyddol Cymdeithas Waldo Williams yng Nghapel Pisgah, Llandysilio, Sir Benfro.

Ddydd Sadwrn arweiniodd wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi cyn siarad yn lansiad rhaglen Llenyddiaeth Cymru.

Pregethodd yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, fore Sul cyn ymuno ag Archesgob Cymru i gynnal Gwasanaeth Cymraeg yn Eglwys Sain Ffagan, Trecynon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol