Tân carafán: Cyhuddo dyn
- Cyhoeddwyd

Mae dyn lleol 21 oed wedi ei gyhuddo ar ôl i garafán gael ei dinistrio'n llwyr oherwydd tân yng Nghlynnog Fawr ger Caernarfon yn oriau mân bore Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu y byddai'r dyn gerbron Ynadon Caernarfon "yn y dyfodol agos".
Roedd diffoddwyr o Gaernarfon a Phorthmadog wedi cael eu hanfon.