Carchar o 18 mis i 'fargyfreithiwr'
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 57 oed o Benarth wedi cael ei garcharu am 18 mis wedi iddo gymryd arno ei fod yn fargyfreithiwr mewn llys.
Clywodd Llys y Goron Bryste fod David Evans wedi gwisgo wig, cerdded i mewn i Lys y Goron Plymouth ac ymweld â "chleient" yn y gell.
Ond roedd barnwr wedi sylwi fod ei ddillad yn amhriodol a bod ei gyflwyniadau cyfreithiol yn anghywir.
Roedd yn euog o gyflawni gweithred gyfreithiol pan nad oedd yn gymwys a chymryd arno ei fod yn berson gyda hawl i gael gwrandawiad.
Dywedodd y barnwr, Mrs Ustus Laura Cox DBE, ei fod wedi ei gael yn euog o'r blaen o drosedd debyg.
'Anonest'
"Rydych yn euog o ddwy drosedd sy'n adlewyrchu eich gweithredoedd anonest, bwriadol a chyson dros gyfnod nifer o fisoedd.
"Fe wnaethoch chi gynnal ymgyfreithiad ar ran Terry Moss, gan ymddangos fel eiriolwr ar ei ran yn Llys y Goron pan nad oeddech yn gymwys a heb awdurdod i wneud hynny.
"Fe wnaethoch chi gymryd mantais ar Mr Moss oedd yn credu eich bod yn berson diffuant.
"Rydych yn amlwg yn berson deallus a chymhleth ond nid ydych wedi dangos edifeirwch nac unrhyw gydnabyddiaeth eich bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le."