Prifathro cynta Ysgol Rhydfelen wedi marw'n 80 oed
- Cyhoeddwyd

Mae Gwilym E Humphreys wedi marw'n 80 oed ac yn gadael gwraig, Carys, a dau o blant, Nia a Gareth.
Enillodd gydnabyddiaeth genedlaethol am ei "gyfraniad gloyw" i fyd addysg ddwyieithog yng Nghymru fel athro, prifathro cyntaf Ysgol Gyfun Rhydfelen, arolygwr ysgolion a Chyfarwyddwr Addysg Gwynedd.
Dywedodd Dewi R Jones, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd: "Ym marwolaeth Gwilym Humphreys fe gollodd Cymru gawr o Gymro a weithiodd gydag arddeliad gydol ei yrfa dros addysg a'r diwylliant Cymraeg.
"Gwireddodd ei weledigaeth yn Ysgol Rhydfelen a fu'n gatalydd nodedig i werthoedd a safonau uchel ei phrifathro cyn dod maes o law i arwain addysg fel Cyfarwyddwr Addysg Gwynedd.
'Disgwyliadau uchel'
"Bryd hynny, daeth i awdurdod ag iddo bolisi iaith datblygol a heriol, yn gyfuniad o gadernid o blaid ansawdd a blaengar ei bwyslais ar fethodoleg.
"Arweiniodd y polisi hwn yn y cyngor ei hun ac yn ei ysgolion trwy gyfrwng disgwyliadau uchel am gyflawniad lle na dderbynnid ail orau."
Dywedodd y byddai'n cael ei gofio fel addysgwr a chanddo awdurdod ac fel Cymro a safodd o blaid y Gymraeg."
Ar ôl ymddeol cyfrannodd at bwyllgorau'r Brifysgol a'r Eisteddfod. Roedd hefyd yn Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cafodd ei eni yn Wallasey yn fab i weinidog Presbyteraidd a'i fagu yn Rhosllannerchrugog.
Hunangofiant
Nia Thomas yn holi Eirlys Pritchard Jones
Cafodd Rhydfelen ei sefydlu yn 1962, yr ysgol gyfun Gymraeg gynta yn y de a'r ail yng Nghymru.
Cyhoeddodd hunangofiant, Heyrn yn y Tân yn 2000 a'r cyhoeddwyr oedd Gwasg Pantycelyn.
Yn ei hadolygiad dywedodd Hafina Clwyd: "Fel i nifer fawr o Gymry gweithgar a galluog, fe fu'r Rhos yn grud ac yn ysgol iddo.
"Cawn wybod mai yn Sir y Fflint yr oedd gwreiddiau ei dad, a'i fam o Benrhyn Llŷn.
"Ond y Rhos a fowldiodd ei feddylfryd. Byddid yn arfer dweud bod athrawon yn tyfu ar y coed yn y Rhos, ac i'r byd addysg yr aeth yntau."