Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar greu awdurdodaeth i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod beth yw barn pobl am greu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.
Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio fydd yn parhau am 12 wythnos.
Ar hyn o bryd mae deddfau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, ar gyfer Cymru, yn ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr er eu bod efallai ddim ond yn effeithio Cymru.
Ond nid dyna'r drefn yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd eisoes ag awdurdodaeth gyfreithiol eu hunain.
Yn ôl swyddogion, dydi Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud eu penderfyniad a oes angen awdurdodaeth ai peidio.
Garry Owen yn holi'r cyfreithiwr Emyr Lewis
Wedi'r bleidlais Ie yn y refferendwm y llynedd mae 'na ddwy ddeddfwrfa, un yn San Steffan a'r llall yn y Cynulliad yn gweithredu o dan un awdurdodaeth gyfreithiol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd a ddylai Cymru gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.
Trafodaeth
Gallai arwain at greu barnwriaeth a system llysoedd Cymreig a phroffesiwn cyfreithiol annibynnol.
Yn ymarferol byddai'n golygu bod materion sy'n ymwneud â deddfau sy'n cael eu pasio yng Nghymru yn mynd ger bron llysoedd Cymru yn unig.
Ond mae rhoi caniatâd i awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 'na gynnydd yn y dargyfeiriad yn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr ers datganoli yn 1999.
Ac ers y refferendwm y llynedd "mae 'na drafodaeth wedi bod a ddylai Cymru gael awdurdodaeth ei hun.
"Mae Cymru yn hen wlad ond yn ddemocratiaeth ifanc," meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones.
"Fel Prif Weinidog, fy mhrif flaenoriaeth i yw sicrhau bod datganoli yn gweithio er mwyn cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru.
"Mae datblygu system gyfreithiol sy'n addas ar gyfer Cymru ffyniannus yn hollbwysig."
Fe fyddai datganoli mwy o bwerau i Gaerdydd yn golygu mwy o gyfreithiau unigryw a fydd yn bodoli yng Nghymru yn unig, eglurodd Mr Jones.
"Rydym yn credu ei bod yn addas i gael dadl gyhoeddus a ddylai Cymru gael awdurdodaeth gyfreithiol ei hun a'r oblygiadau ar gyfer Cymru a gweddill i DU."
'Blaenoriaeth ryfedd'
Dywedodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle QC, eu bod yn glir y byddai awdurdodaeth i Gymru yn unig yn gallu bodoli o fewn y DU - gan fod gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaeth eu hunain.
"Yn y cyd-destun yma, mae'n bryd ystyried a ddylai Cymru gael awdurdodaeth ei hun ai peidio."
Wrth ymateb dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, ei bod wedi darllen y ddogfen ymgynghorol gyda chryn ddiddordeb a'i bod yn edrych ymlaen at weld canlyniad yr ymgynghoriad.
"Mae hwn yn flaenoriaeth ryfedd gan Lywodraeth Cymru a dwi'n ansicr am y broblem sydd angen ei ddatrys.
"Sut y byddai newid o fudd i bobl Cymru?"
Dywedodd bod y system bresennol wedi gwasanaethu Cymru a Lloger am ganrifoedd ac nad oes 'na wir angen newid.