Ffermwr moch yn gwadu llofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Llys (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Clywodd y llys fod Mr Iveson yn bwlio Mr Billington wrth geisio cael yr arian yn ôl.

Mae ffermwr moch o Wrecsam wedi gwadu iddo lofruddio ei frawd yng nghyfraith.

Dyw'r heddlu ddim wedi dod o hyd i gorff John Iveson, 36 oed, ddiflannodd bum mlynedd yn ôl.

Mae ei frawd yng nghyfraith Paul Billington o'r Orsedd, ger Wrecsam, a Mark Done, rheolwr ffarm o Nantwich, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth.

Mae'r erlyniad wedi honni mai £250,000 oedd dyledion Mr Billington i'w frawd yng nghyfraith.

Clywodd y llys fod Mr Iveson yn bwlio Mr Billington wrth geisio cael yr arian yn ôl.

Gweinyddwyr

Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Caer, dywedodd mai'r dyledion oedd £50,000, arian a fenthyciwyd i brynu moch.

Ond mae Mr Billington wedi honni ei fod bron â gorffen talu'r arian yn ôl pan ddiflannodd Mr Iveson o Nantwich ar Ionawr 30, 2007.

Clywodd y llys fod busnes moch Mr Billington wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr yn 2005.

Roedd wedi benthyg arian oddi wrth Mr Iveson ar raddfa log o 100% dros gyfnod o 12 mis.

Mae'r achos yn parhau.