Cofio James Callaghan ac Edward Heath yn Abaty Westminster
- Cyhoeddwyd

Fe fydd dau gyn-Brif Weinidog yn cael eu hanrhydeddu yn Abaty Westminster.
Yr Arglwydd James Callaghan a Syr Edward Heath fydd y prif weinidogion cyntaf mewn dros hanner canrif i dderbyn cofebion yn yr Abaty.
Daw'r cyhoeddiad union 100 mlynedd ers geni Yr Arglwydd Callaghan ar Fawrth 27 1912.
Mae disgwyl i'r cofebau carreg gael eu dadorchuddio yn ddiweddarach eleni.
Fe fu Syr Edward Heath yn Brif Weinidog rhwng 1970 a 1974, a'r Arglwydd Callaghan yn y swydd rhwng 1976 a 1979.
Dywedodd Deon Westminster, Y Gwir Barchedig Ddoctor John Hall, bod gŵyr a gwragedd sydd wedi cyfrannu at stori'n hynys a'n gwlad yn rhyngwladol wedi eu cofio yn yr Abaty.
Gwasanaethu eu gwlad
"Mae'r rhain yn cynnwys y rhan fwya' o Brif Weinidogion y 19eg Ganrif a hanner cyntaf yr 20fed Ganrif.
"Er hynny does 'na ddim cofeb i'r un Prif Weinidog yma ers 1956.
"Dwi wedi penderfynu, gyda'r rhai agosaf at y ddau i'w cynnwys yma.
"Er bod y ddau o begynau gwleidyddol gwahanol, roedden nhw o genhedlaeth arbennig a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd ac a barhaodd i ymroi eu bywydau i wasanaethu'r wlad a'r byd.
"Mae'n bwysig ein bod yn eu cofio."
Yn enedigol o Portsmouth, bu'r Arglwydd Callaghan o Gaerdydd yn AS Llafur dros etholaeth yn y brifddinas rhwng 1945 a 1987.
I ddechrau De Caerdydd cyn i'r etholaeth newid ei henwi i De Ddwyrain Caerdydd ac yn ddiweddarach De Caerdydd a Phenarth.
Bu'n Ganghellor, yn Ysgrifennydd Cartref ac Ysgrifennydd Tramor cyn cael ei benodi yn Brif Weinidog wedi ymddiswyddiad anisgwyl Harold Wilson.
Fo yw'r unig wleidydd i ddal y pedair prif swydd yma.
Bu farw yn 2005 yn 92 oed.
Llwch
Cafodd Syr Edward Heath ei ethol yn AS Ceidwadol yn 1949, a fo arweiniodd Prydain i ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd yn 1971.
Cafodd sawl swydd yn y cabinet cyn cael ei ethol yn arweinydd y Ceidwadwyr yn 1965 wedi ymddiswyddiad Syr Alec Douglas Home.
Bu farw yn yr un flwyddyn â'r Arglwydd Callaghan yn 89 oed.
Ymhlith llwch Prif Weinidogion yr 20fed Ganrif sydd wedi eu claddu yn yr Abaty y mae Andrew Bonar Law; Neville Chamberlain a Clement Attlee.
Ac mae 'na gofebion i 3ydd Marcwis Caersallog; Syr Henry Campbell-Bannerman; Herbert Henry Asquith; David Lloyd George; Stanley Baldwin; Ramsay MacDonald a Syr Winston Churchill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2005
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2005