Carchar i ddyn am drydar sylwadau hiliol am Fabrice Muamba

  • Cyhoeddwyd
Liam StaceyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Liam Stacey gyfadde' i drosedd o dan y drefn gyhoeddus

Cafodd myfyriwr 21 oed ym Mhrifysgol Abertawe ei garcharu am 56 diwrnod wedi iddo gyhoeddi sylwadau ffiaidd ar wefan Twitter.

Roedd Liam Stacey o Bontypridd wedi cyfaddef iddo wneud sylwadau ffiaidd â chymhelliad hiliol am y chwaraewr pêl-droed Fabrice Muamba.

Cafodd Stacey ei arestio wedi i ddefnyddwyr eraill y wefan ddweud wrth yr heddlu.

Daeth ei sylwadau ar ôl i bêl-droediwr Bolton Wanderers gael ei gludo i'r ysbyty wedi i'w galon stopio yn ystod y gêm rhwng Bolton a Tottenham Hotspur yn ystod gêm gogynderfynol Cwpan yr FA.

Mae'r chwaraewr 23 oed, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Fe wnaeth Stacey gyfadde' i drosedd o dan y drefn gyhoeddus mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys Ynadon Abertawe ar Fawrth 19.

Cwynion

Fe wnaeth Stacey y sylwadau ar ôl y digwyddiad yn White Hart Lane ar Fawrth 17.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Fabrice Muamba yn dal mewn cyflwr difrifol ers y digwyddiad ar Fawrth 17

Clywodd ynadon bod heddluoedd o bob cwr o Brydain wedi derbyn cwynion am y sylwadau.

Ceisiodd Stacey â phellhau ei hun oddi wrth y sylwadau gan ddweud bod rhywun wedi mynd i mewn i'w gyfri.

Yn ddiweddarach fe geisiodd ddileu ei dudalen ond cafodd ei arestio'r diwrnod canlynol yn Abertawe.

Pan gafodd ei holi gan yr heddlu dywedodd ei fod wedi bod yn yfed ers amser cinio dydd Sadwrn a'i fod wedi meddwi pan wnaeth y sylw.

Dagrau

Wrth iddo gael ei arwain i'r celloedd heibio'r oriel gyhoeddus yn y llys, roedd Stacey yn ei ddagrau.

Dywedodd y Barnwr John Charles wrtho: "Yn fy marn i does dim dewis arall ond dedfryd o garchar ar unwaith.

"Pan ddisgynnodd Muamba, nid y byd pêl-droed yn unig oedd yn gweddïo drosto...roedd pawb yn gweddïo am ei fywyd."

Yn ddiweddarach fy gyhoeddodd Prifysgol Abertawe ddatganiad oedd yn dweud bod "y myfyriwr yn dal wedi ei wahardd o'r Brifysgol tan y bydd ein camau disgyblu ni wedi eu cwblhau".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol