Arolwg y Democratiaid Rhyddfydol am ddiffygion y gwasanaeth deintyddol

  • Cyhoeddwyd
Deintydd wrth ei gwaithFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Mae gan un ddeintyddfa restr aros o chwe blynedd

Dim ond 37% o ddeintyddion Cymru sy'n derbyn cleifion gwasanaeth iechyd newydd, yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Maen nhw'n honni bod dros hanner y deintyddion yn nodi problemau gyda sut y mae cytundebau deintyddol yn gweithio a bod gormod o lawer o gleifion yn dal i aros yn rhy hir i weld deintydd.

Dywedodd Cymdeithas Deintyddion Prydain fod rhaid i weinidogion roi mwy o arweinid i fyrddau iechyd am wariant deintyddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn cydnabod bod "mynediad i ddeintyddfa Gwasanaeth Iechyd yn parhau'n anodd mewn rhai ardaloedd".

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r gwaith ymchwil yn dangos bod gan 63% o ddeintyddion sy'n derbyn cleifion gwasanaeth iechyd restr aros.

O'r rhai hynny, roedd gan 65% restr aros am dros ddau fis tra bod gan un deintyddfa restr aros o chwe blynedd.

'Realiti'

Mae'r gwaith ymchwil wedi casglu bod bod dros hanner y deintyddion, 55%, wedi cofnodi cynnydd yn nifer yr apwyntiadau sy'n cael eu colli yn y flwyddyn ddiwethaf, sy'n costio arian ac amser.

Hefyd mae dros hanner y deintyddion, 53%, wedi cofnodi problemau am y modd y mae'r cytundeb deintyddol presennol yn gweithio, gyda 31% yn credu bod angen newid.

"Yn yr 21ain Ganrif yng Nghymru, ddylai agor deintyddfa newydd ddim bod yn brif bennawd y newyddion, ond yn anffodus, dyna'r realiti," meddai arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams.

"Er bod y cytundeb deintyddol newydd i fod i wella mynediad at wasanaeth deintyddol Gwasanaeth Iechyd i bawb, y gwir ydi nad dyna'r sefyllfa.

"Dwi'n credu nad ydi Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw digonol i'r maes yn y blynyddoedd diwethaf."

Mae'r gymdeithas wedi dweud bod hwn yn "adroddiad gwerthfawr".

"Os nad ydi claf yn mynychu apwyntiad, nid yn unig amser y deintydd sy'n cael ei wastraffu, ond mae hefyd yn cael effaith ar allu cleifion eraill i weld deintydd," meddai Stuart Geddes, Cyfarwyddwr y BDA yng Nghymru.

"Y rheswm pam nad yw deintyddion yn gallu cael mwy o gleifion gwasanaeth iechyd am nad ydi'r byrddau iechyd yn comisiynu'r gwasanaeth.

"Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynllun iechyd geneuol ond mae angen rhoi mwy o arweiniad i'r byrddau iechyd sut i wario'r arian."

Cynllun peilot

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mynediad at ddeintydd Gwasanaeth Iechyd wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig mewn ardaloedd lle'r oedd 'na ddiffygion yn y gorffennol.

"Mae arolwg a gyhoeddwyd yn 2011, Arolwg Iechyd Deintyddol Oedolion, yn nodi bod 59% o oedolion yn gweld deintydd yn gyson yn 1998.

"Erbyn 2009 roedd hyn wedi codi i 69%.

"Yn nhermau newidiadau i gytundebau deintyddol mae'r llywodraeth eisoes yn cynnal adolygiad ac ers Ebrill 2011 wedi cynnal cynllun peilot ar ffyrdd newydd o weithio sydd ddim yn rhan o'r system bresennol.

"Mae disgwyl i'r cynlluniau fod yn eu lle tan Ebrill 2013."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol