Ffrwydriad ar safle Tata

Tata ym Mhort Talbot Image copyright PA
Image caption Dywedodd Tata fod y ffrwydrad yn y safle adfer metel.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i waith dur Tata ger Port Talbot yn oriau mân bore Mawrth.

Daeth adroddiadau i law bod ffrwydrad wedi bod ar y safle, ac fe gafodd hynny ei gadarnhau gan lefarydd ar ran Tata, er ei fod yn mynnu nad oedd y digwyddiad yn un difrifol.

Yn ôl Robert Dangerfield, doedd y digwyddiad ddim yn y prif safle gweithredu ond yn y safle adfer metel.

Fe wnaeth gadarnhau hefyd fod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael eu galw i'r safle.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod un person wedi ei gludo i'r ysbyty yn Nhreforys ond doedd dim manylion am anafiadau na chyflwr y person.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.