Apêl heddlu wedi tân amheus mewn tŷ yn Y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl tân amheus mewn tŷ yn Y Barri.
Am 6.05am ddydd Llun, Mawrth 26, fe gafodd gwrthrych oedd ar dân ei bostio trwy focs llythyrau'r eiddo gan achosi tân bach yn y tŷ yn Holmes Street.
Llwyddodd y teulu - oedd yn cysgu i fyny'r grisiau ar y pryd - i ddianc drwy un o ffenestri'r llofft.
Fe gawson nhw eu cludo i'r ysbyty rhag ofn cyn cael mynd adref.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Redrup: "Roedd hwn yn ddigwyddiad anarferol tu hwnt allai fod wedi arwain at ganlyniadau difrifol iawn.
"Yn ffodus llwyddodd y teulu i ddianc heb anaf.
"Mae'r ymchwiliad yn parhau ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddal y rhai oedd yn gyfrifol.
"Os welsoch chi unrhyw un yn ymddwyn yn amheus yn ardal Holmes Street, Vere Street a Quarella Street fore Llun, neu os oes gennych wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda."