Gohirio etholiadau 2016 am flwyddyn i osgoi sawl pleidlais wahanol
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi y bydd etholiadau lleol cynghorau Cymru yn cael eu symud o fis Mai 2016 i'r flwyddyn ganlynol.
Fe wnaeth y penderfyniad er mwyn osgoi cael yr etholiad yn yr un flwyddyn ag etholiad y Cynulliad Cenedlaethol.
Fe gafodd yr etholiad yna ei symud o 2015 i 2016 er mwyn osgoi gwrthdaro gydag Etholiad Cyffredinol 2015.
Mae hynny'n golygu y bydd cynghorwyr fydd yn cael eu hethol ym mis Mai eleni yn gwasanaethu am dymor o bum mlynedd yn hytrach na phedair.
Bydd hefyd yn golygu y bydd y bleidlais ar Ynys Môn yn digwydd yr un pryd a gweddill Cymru gan fod yr etholiad oedd i fod yno eleni wedi cael ei ohirio tan 2013 er mwyn ail-lunio ffiniau etholiadol yno.
'Ymgynghori'
"Mae potensial i gael etholiadau i dair gweinyddiaeth wahanol, gyda thair system bleidleisio wahanol i ddigwydd ym Mai 2016 - etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, ethol cynghorwyr sir a chymuned ac ethol Comisiynwyr Heddlu a Throseddu," meddai Mr Sargeant.
"Yn ddiweddar fe wnes i ymgynghori gydag ystod eang o rhanddeiliaid ar gynllun i newid y flwyddyn i ethol cynghorwyr o fis Mai 2016 i fis Mai 2017.
"Fe gafodd y cynllun gefnogaeth llethol.
"Rwyf felly yn bwriadu defnyddio fy mhwerau o dan Adran 87 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i newid y flwyddyn ar gyfer yr etholiad yna.
"Rwyf yn cyhoeddi hyn nawr fel y bydd y rhai sy'n ystyried sefyll yn etholiad mis Mai eleni yn gwybod y bydd eu cyfnod yn y swydd yn cael ei ymestyn i bum mlynedd.
"Bydd Gorchymyn yn cael ei baratoi er mwyn gweithredu'r penderfyniad maes o law."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2011