Y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn gorfod cropion oddi ar drên
- Cyhoeddwyd

Mae'r Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi galw am well gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl ar ôl dweud ei bod wedi gorfod cropian oddi ar drên yn Llundain.
Yn ôl y cyn-Baralympian sy'n teithio'n gyson o ogledd-ddwyrain Lloegr, cafodd ei gadael heb help yng ngorsaf King's Cross am hanner nos.
Dywedodd ei bod wedi gwneud cais am help 24 awr ymlaen llaw ond na chyrhaeddodd neb.
Mae cwmni East Coast wedi ymddiheuro a dweud bod hyn oherwydd ffactorau y tu hwnt i'w rheolaeth.
"Mae'n digwydd tua unwaith y mis i mi," meddai'r farwnes.
Eglurodd yr athletwraig o Gaerdydd, a anwyd gyda spina bifida, ei bod ar drên gyrhaeddodd yr orsaf am hanner nos.
"Daeth neb i fy helpu ac fe wnes i aros am 10 munud cyn symud fy hun o'r sedd i'r llawr a gwthio fy nghadair at ddrws y trên," meddai.
Gofyn am gymorth
"Fe wnaeth rhai gweithwyr yn yr orsaf fy ngweld a dod i helpu.
"'Swn i ddim wedi cyrraedd y drws, fe fyddwn i wedi bod yn gaeth ar y trên tan y bore."
Dywedodd y farwnes, aelod Bwrdd Trafnidiaeth Llundain, ei bod wedi gofyn am help i ddod oddi ar y trên cyn teithio.
"Mae 'na system lle mae angen archebu cymorth 24 awr ymlaen llaw i gael help wrth fynd ar drên neu oddi ar drên.
"Does dim modd archebu dros y penwythnos ac mae angen gwneud yr alwad ddydd Gwener ar gyfer dydd Llun.
"Mae angen nodi'r union amser hefyd."
Dywedodd ei bod yn cael cynnig help yn aml gan aelodau'r cyhoedd ond dydyn nhw ddim yn gallu gweithredu'r ramp o'r trên i'r platform.
Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n poeni am ei diogelwch dywedodd ei bod yn teimlo yn "fwy cythryblus".
Profiadau teithio
"Os oes 'na ddiffyg cyfathrebu neu os ydyn nhw wedi anghofio, mae'n anodd. Mae hyn yn digwydd yn weddol gyson.
"Unwaith yr ydych chi'n cyrraedd Llundain rydych chi'n gwybod na fydd yn mynd ymlaen i unlle.
"Dwi wedi clywed gan bobl sydd wedi ceisio mynd oddi ar y trên yn Efrog ond wedi mynd yn eu blaen am nad oedd modd dod oddi ar y trên."
Mae wedi apelio at bobl anabl i gymryd rhan mewn prosiect hygyrchedd mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.
"Rydym yn gofyn i bobl anabl sôn wrthym ni am brofiadau da a drwg. Mae hynny yn bwysig."
"Rydym am weld mwy o bobl anabl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
"Ar hyn o bryd, dyw e ddim yn wych ond mae angen newid agwedd pobl at bobl anabl."
90 munud
Eglurodd East Coast fod 'na oedi o tua 90 munud ar ôl marwolaeth ar y cledrau i'r de o Peterborough.
"Mae'r tîm nos yng ngorsaf King's Cross yn gweithio'n galed i gynorthwyo cymaint o deithwyr â phosib - gan gynnwys darparu dros 60 o dacsis i'r rhai sydd wedi colli cysylltiad gyda threnau tanddaearol.
"Ond, yn anffodus, roedden nhw wedi methu helpu'r farwnes.
"Roedd modd i gard y trên gynnig rhywfaint o gymorth iddi.
"Rydym yn ymddiheuro oherwydd oedi oedd y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Doedd y gwasanaeth ddim yn cyd-fynd â'n safon uchel o gymorth i gwsmeriaid, yr un fel arfer sy'n cael ei darparu."
Dywedodd Cymdeithas y Cwmnïoedd Trenau eu bod wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth teilwng i deithwyr anabl ac y bydden nhw'n parhau i fuddsoddi mewn gwella mynediad.
Roedd y system archebu newydd - Passenger Assist - wedi ei chynllunio ar ôl derbyn ymateb grŵp o deithwyr anabl.
"Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae nifer y teithwyr anabl sy'n defnyddio'r trên wedi dyblu i dros 3 miliwn o deithiau'r flwyddyn," ychwanegodd llefarydd.
Straeon perthnasol
- 15 Mehefin 2010
- 31 Rhagfyr 2004
- 1 Chwefror 2011