Angladd preifat i Mervyn Davies yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Mervyn Davies yn 1977Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i wasanaeth coffa gael ei gynnal i Mervyn Davies

Mae angladd cyn-gapten rygbi Cymru Mervyn Davies yn cael ei gynnal yn Abertawe.

Bu farw'r gŵr 65 oed yn gynharach yn y mis ar ôl diodde' o ganser.

Fe fydd y gwasanaeth preifat ddydd Mawrth i'w deulu a chyfeillion.

Mae disgwyl gwasanaeth coffa cyhoeddus yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Arweiniodd yr wythwr Gymru i'r Gamp Lawn yn 1976.

Enillodd 38 o gapiau dros Gymru ac roedd yn aelod o dîm llwyddiannus y Llewod yn 1971 a 1974.

Daeth gyrfa "Merv the Swerve" - fel yr oedd yn cael ei adnabod - i ben yn gynnar pan gafodd waedlif ar ei ymennydd yn ystod gêm rhwng Abertawe a Phont-y-pŵl yn 1976.

Derbyniodd driniaeth am sawl mis yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

'Eicon'

Roedd yn ffigwr amlwg iawn ar y cae rygbi, gyda'r band gwyn o amgylch ei ben a mwstas du trwchus.

Ymunodd Davies â thîm Cymry Llundain yn 1968 ar ôl symud i Lundain i fod yn athro.

Dychwelodd yn ddiweddarach i Abertawe.

Enillodd y Gamp Lawn ddwywaith a'r Goron Driphlyg dair gwaith yn ystod ei yrfa.

Wedi ei farwolaeth dywedodd cyn-gapten Cymru Phil Bennett ei fod yn ffigwr "eiconig" yn hanes rygbi Cymru.

"Mae'r geiriau 'gwych' ac 'arwr' yn cael eu defnyddio yn gyson y dyddiau yma ond roedd Mervyn yn eicon."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol