Y Cymro a'r 'cyrch arwrol'
- Cyhoeddwyd

Cafodd seremoni yn cael ei chynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf i gofio am gyfraniad Cymro i un o gyrchoedd Comando enwocaf yr Ail Ryfel Byd.
Bu farw Capten William 'Bill' Pritchard yn ystod cyrch i ddinistrio porthladd sych St Nazaire yn Ffrainc.
Capten Pritchard o Gaerdydd oedd un o'r rhai oedd yn gyfrifol am gynllunio'r cyrch 'Operation Chariot' 70 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd y Seremoni yn Llandaf ddydd Mercher ei threfnu gan yr hanesydd milwrol Jonathan Ware.
Roedd tad Capten Pritchard yn rheolwr dociau yng Nghaerdydd.
O ganlyniad roedd gan y milwr wybodaeth amhrisiadwy o'r ffordd fwyaf effeithiol i amharu ar effeithiolrwydd y dociau yn Normandy.
Roedd y porthladd yn bwysig iawn i longau'r Almaen.
Cafodd ei ddefnyddio i drwsio llongau mawrion, yr unig borthladd ar arfordir yr Iwerydd oedd yn gallu atgyweirio llongau fel y Bismark a'r Tirpitz.
Cyrch
Fe lwyddodd y cyrch i gwblhau'r nod o sicrhau nad oedd modd i'r Almaenwyr ddefnyddio'r dociau i atgyweirio eu llongau rhyfel.
Roedd un o longau Prydain, HMS Campbeltown, wedi ei llwytho gyda deunydd ffrwydrol wedi ei gyrru'n fwriadol yn erbyn gatiau'r doc.
Ar ôl i'r milwyr adael y llong, fe ffrwydrodd y Campbeltown gan achosi difrod sylweddol.
Llwyddodd Capten Pritchard i arwain criw o Gomandos wnaeth ddinistrio llawer o dynfadau'r Almaen.
Cafodd ei ladd yn ystod yr ymladd.
O'r 622 o Comandos ac aelodau'r llynges oedd yn rhan o'r cyrch dim ond 228 ddychwelodd.
Bu farw 169, cafodd 215 eu dal gan yr Almaenwyr, tra bod pump wedi llwyddo i ddianc i Sbaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2010
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2005
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2002